SL(6)733 – Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygiadau sy’n ymwneud ag Isafswm Darpariaeth Refeniw) 2026

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”), sy’n darparu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer yr arferion cyfrifyddu sydd i’w dilyn gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, yn ystod pob blwyddyn ariannol mewn cysylltiad â chyllido gwariant cyfalaf yr aed iddo yn y flwyddyn honno neu mewn unrhyw flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn honno, rhaid i awdurdod lleol godi isafswm ar gyfrif refeniw (“isafswm darpariaeth refeniw” neu “IDR”) ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol gyfrifo swm o IDR y mae’n ei ystyried yn swm darbodus.

Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddisgresiwn i godi unrhyw swm ar gyfrif refeniw yn ychwanegol at IDR.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 i ddarparu bod gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2026, ddisgresiwn i wneud IDR ond nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny. Mae’r gwelliannau yn darparu bod rhaid i’r cynghorau hynny gyfrifo swm y maent yn ei ystyried yn swm darbodus, pan fônt yn dewis gwneud IDR. Mae paragraff 1.2 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio y bydd Llywodraeth Cymru yn dyroddi canllawiau atodol i’r canllawiau presennol “mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol 2026-2027 i ddarparu hyblygrwydd wrth gyfrifo’r hyn sy’n swm darbodus o IDR ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.”

Mae paragraff 4.5 o’r Memorandwm Esboniadol yn mynd ymlaen i ddatgan:

“Mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan gynnwys IDR. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r pwysau presennol sy’n wynebu awdurdodau lleol o amrywiaeth o ffynonellau yn sgil chwyddiant a phatrymau o ran y galw am wasanaethau, ynghyd â newidiadau sylweddol o fewn grantiau mawr y DU ac ansicrwydd o gylchoedd gwleidyddol. Mae’r hyblygrwydd tymor byr hwn yn lefel y ddarpariaeth IDR a gymhwysir yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i reoli eu gwaith cynllunio ar gyfer y gyllideb yn y tymor byr a’r tymor canolig. Dewisol yw’r newid hwn, nid gorfodol, a gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o hyblygrwydd megis defnyddio cronfeydd wrth gefn a chyfarwyddydau cyfalaf yn seiliedig ar amgylchiadau penodol awdurdod lleol unigol. Rhaid i unrhyw newid i bolisi IDR awdurdod lleol gael ei gytuno gan y cyngor llawn fel rhan o’r datganiad IDR blynyddol.”

Gweithdrefn

Gweithdrefn annilysu’r Senedd.

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn y bloc llofnodi ar ddiwedd y Rheoliadau hyn, nodir yn anghywir mai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yw Jayne Bryant AS. Fodd bynnag, dylai’r bloc hwnnw nodi mai Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yw Jayne Bryant AS.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Ionawr 2026